Maniffesto ar gyfer Cerddoriaeth Llawr Gwlad yng Nghymru
A Manifesto for Grassroots Music in Wales

Mae Music Venue Trust yn falch o gyflwyno Maniffesto ar gyfer Cerddoriaeth Llawr Gwlad yng Nghymru, cynllun pum pwynt ar gyfer y Senedd nesaf

Music Venue Trust is proud to present A Manifesto for Grassroots Music in Wales, a five-point plan for the next Senedd

Ledled Cymru, lleoliadau bychain ydy sylfaen ein diwylliant cerddorol. Dyma lle mae artistiaid ifanc yn dod wyneb yn wyneb â’u cynulleidfaoedd cyntaf; lle mae technegwyr, hyrwyddwyr a rheolwyr yn meithrin a naddu eu crefft, a lle mae cymunedau’n dod ynghyd. O Wrecsam i Abertawe, o Aberteifi i Gaerdydd, y rhain sy’n cynnal economi’r hwyrnos ac enw da’r genedl ar y llwyfan ryngwladol.

Bellach, mae gormod o’r rhain yn colli arian. Mae’r rhyddhad ar drethi wedi ei dorri, mae canllawiau diogelu cynllunio yn wan, cysylltiadau trafnidiaeth yn gyfyngedig, ac mae’r nawdd sydd ar gael yn aml yn methu’r union bobl sydd fwyaf ei angen. Gall y Senedd nesaf unioni’r cam hwn.

Isadeiledd ydy diwylliant. Diwydiant ydy cerddoriaeth. Mae sicrhau cefnogaeth i’r sylfeini yn diogelu popeth sy’n tarddu ac yn deillio ohoni.

 

Across Wales, small venues are the foundation of our music culture. They are where young artists find their first audiences, where technicians, promoters and managers learn their craft, and where communities come together. From Wrexham to Swansea, from Cardigan to Cardiff, they power the night-time economy and the nation’s international reputation.

Too many of these rooms are now running at a loss. Rates relief has been cut, planning protections are weak, transport links are limited, and funding often misses the people who need it most. The next Senedd can fix this.

Culture is infrastructure. Music is industry. Supporting the base protects everything that grows from it.

 

Pum cam y gall y Senedd nesaf ei chyflenwi

  1. Trethi Busnes. Gosod Gwerthoedd Ardrethol sefydlog yn barhaol ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad trwy greu dosbarthiad diwylliannol penodedig a diffiniad clir o beth ydy LlCLlG, cyflenwi prisiadau teg, diweddu ailbrisiadau diffygiol, lleihau cau lleoliadau, ac atal yr angen am ymyriadau brys cyson gan Llywodraeth.
  2. Cyfrwng Newid. Ymgorffori egwyddor cyfrwng newid yn y gyfraith fel bod dyletswydd ar bob datblygwr i reoli sŵn a mynediad o amgylch lleoliadau presennol.
  3. Trafnidiaeth Gyhoeddus. Ariannu trafnidiaeth diogel, fforddiadwy gyda’r hwyr fel y gall cynulleidfaoedd, artistiaid a staff deithio nôl a mlaen o leoliadau.
  4. Cronfa Cerddoriaeth Fyw Llawr Gwlad Cymru Greadigol. Sefydlu cronfa Cymru Greadigol benodol ar gyfer datblygu rhaglennu a doniau, gyda mynediad rhwydd, penderfyniadau buan ac ymrywmiad hirdymor.
  5. Perchnogaeth a Sicrwydd. Creu llwybr Gymreig at berchnogaeth gydweithredol a chymunedol o leoliadau llawr gwlad, gan gyfuno buddsoddiad cyhoeddus, preifat a lleol er mwyn galluogi’r asedau diwylliannol hyn i barhau yn nwylo’r Cymry.

 

Five actions the next Senedd can deliver

  1. Business Rates. Permanently fix Rateable Values for grassroots music venues by creating a dedicated cultural classification and clear GMV definition, delivering fair valuations, ending flawed revaluations, reducing closures, and stopping the need for constant emergency government intervention.
  2. Agent of Change. Embed the agent of change principle in law so every developer has a legal duty to manage noise and access around existing venues.
  3. Public Transport. Fund safe, affordable late-night transport so audiences, artists and staff can travel to and from venues.
  4. Creative Wales Grassroots Live Music Fund. Establish a dedicated Creative Wales fund for programming and talent development, with simple access, fast decisions and long-term commitment.
  5. Ownership and Security. Create a Welsh pathway for community and cooperative ownership of grassroots venues, combining public, private and local investment so these cultural assets remain in Welsh hands.

 

Lawrlwythwch y Maniffesto ar gyfer Cerddoriaeth Llawr Gwlad yng Nghymru yma.

Download the full Manifesto for Grassroots Music in Wales here.